Rhybudd i Feysydd Parcio Preifat

Does dim rhaid i gwmnïau preifat sy'n rhedeg meysydd parcio godi arwyddion gwybodaeth Cymraeg na gohebu yn Gymraeg, er bod disgwyl gwasanaeth Cymraeg mewn meysydd parcio mae awdurdodau lleol yn gyfrifol amdanyn nhw. 

Mae Cymdeithas yr Iaith yn ymgyrchu i newid y gyfraith - mae nifer o gwmnïau eisoes wedi dweud wrthym na wnawn nhw ddarparu gwasanaeth yn Gymraeg onibai eu bod yn cael eu gorfodi trwy ddeddf. 

Cysylltwch gyda ni i gael nodyn i roi yn ffenestr eich car i ddweud nad ydych chi'n talu am barcio am nad yw'r cwmni yn gweithredu trwy'r Gymraeg.

Cysylltwch gyda ni i gael sticeri i roi ar arwyddion uniaith Saesneg mewn meysydd parcio

               

Rydyn ni'n awyddus i greu rhestr o feysydd parcio sydd heb arwyddion Cymraeg ac i gefnogi unrhyw un sy'n gwrthod talu hysbysiad cosb parcio.

Cwblhewch y ffurflen yma neu cysylltwch â'r swyddfa os ydych chi yn gwrthod talu hysbysiad cosb parcio.

Rhagor o wybodaeth

Torri cytundeb nid troseddu

  • Yn gyfreithiol, trwy barcio mewn maes parcio mae rhywun yn mynd i gytundeb gyda'r cwmni parcio ac mae'r hyn sydd ar unrhyw arwydd yn y maes parcio yn cael ei ystyried yn amodau'r cytundeb.
  • Felly torri cytundeb yn hytrach na throseddu mae rhywun wrth beidio talu, parcio dros amser ayb.
  • Dydy torri'r amodau (trwy beidio talu i barcio, aros yn rhy hir ayb) ddim yn fater troseddol ond yn fater ar gyfer cyfraith contract.

Camau Nesaf

Os byddwch chi'n cael hysbysiad cosb parcio trwy'r post am beidio talu am barcio danfonwch lythyr fel hyn yn ôl at y cwmni:

Annwyl XX,

Wnes i ddim talu am barcio ym maes parcio XX am nad oedd arwyddion Cymraeg gyda chi ac am nad ydych chi'n cynnig gwasanaeth Cymraeg.

Dydw i ddim yn bwriadu talu'r hysbysiad tâl oherwydd diffyg defnydd cymwys a phriodol eich cwmni o'r iaith Gymraeg.
Dylai holl arwyddion, peiriannau, tocynnau, hysbysiadau cosb ac unrhyw weinyddiaeth gyhoeddus gan feysydd parcio preifat sy'n gweithredu yng Nghymru fod yn ddwyieithog.
Dylid gweithredu'r egwyddor o ddilysrwydd cyfartal ym mhob defnydd o'r Gymraeg a'r Saesneg; dylai  cywirdeb y fersiynau Cymraeg a'r Saesneg fod o'r un safon ac o'r un statws a dylai pob hysbysiad gael ei gyhoeddi yn ddwyieithog yn ddi-ofyn.

I haven't paid to park in XX car park as there were no Welsh signs and because you don't provide any services in Welsh.

I do not intend to pay the parking charge notice because of your company's failure to make appropriate and competent use of the Welsh language.
All signage, machines, tickets, parking charge notices and communication by private car parking companies operating in Wales should be bilingual.
The principle of equal validity should be operated in every use of the Welsh and English languages. The Welsh and English versions should be of the same standard of correctness and of the same status and every notice should be provided bilingually by default.

Yn Gywir,
XXXX

Os ydych chi wedi derbyn cosb yn anfwriadol neu yn fwriadol ac yn derbyn hysbysiad cosb uniaith Saesneg gallwch chi ddanfon neges fel yr isod:

Rydw i wedi derbyn hysbysiad tâl parcio am dorri'r telerau a'r amodau ym maes parcio XXX. Dydw i ddim yn bwriadu talu'r hysbysiad tâl oherwydd diffyg defnydd cymwys a phriodol eich cwmni o'r iaith Gymraeg.
Dylai holl arwyddion, peiriannau, tocynnau, hysbysiadau cosb ac unrhyw weinyddiaeth gyhoeddus gan feysydd parcio preifat sy'n gweithredu yng Nghymru fod yn ddwyieithog.
Dylid gweithredu'r egwyddor o ddilysrwydd cyfartal ym mhob defnydd o'r Gymraeg a'r Saesneg; dylai  cywirdeb y fersiynau Cymraeg a'r Saesneg fod o'r un safon ac o'r un statws a dylai pob hysbysiad gael ei gyhoeddi yn ddwyieithog yn ddi-ofyn.

I have received a parking charge notice for breaching the terms and conditions in XXX car park. I do not intend to pay the parking charge notice because of your company's failure to make appropriate and competent use of the Welsh language.
All signage, machines, tickets, parking charge notices and communication by private car parking companies operating in Wales should be bilingual.
The principle of equal validity should be operated in every use of the Welsh and English languages. The Welsh and English versions should be of the same standard of correctness and of the same status and every notice should be provided bilingually by default.

Rydyn ni'n awyddus i gefnogi unrhyw un sy'n gwrthod talu hysbyseb cosb felly cysylltwch gyda ni i roi gwybod os ydych chi'n derbyn hysbyseb cosb.

Mae croeso i chi gysylltu am gyngor pellach hefyd.

Beth nesa?

  • Byddwch chi'n derbyn sawl llythyr gan y cwmni parcio yn ceisio hawlio arian, bydd y swm yny cynyddu wrth i amser fynd yn ei flaen.
  • Mae rhai cwmnïau yn bygwth danfon rhywun i'ch cartref i gasglu dyled. Ni all cwmni parcio neu gwmni casglu dyledion fynnu'r ddyled na chyfarwyddo bwmbeili i adfer dyled nes mynd â'r person i'r llys sirol.
  • Gall swyddog o gwmni dyledion alw yn eich cartref  dim ond gofyn i chi dalu rhywbeth tuag at y ddyled y gallan nhw wneud, does dim hawl gyda nhw i fynd â’ch eiddo a does dim rhaid i chi eu talu. Os ydych chi'n gofyn iddyn nhw adael mae'n rhaid iddyn nhw wneud.

Achos Llys a Dyfarniad Llys Sirol (County Court Judgement (CCJ))

  • Os yw cwmni parcio neu gwmni casglu dyledion yn cychwyn achos yn erbyn rhywun mewn llys yn Lloegr, ni fydd yn bosibl defnyddio'r Gymraeg yn y llys. Felly os cewch wys i ymddangos mewn llys yn Lloegr, cewch ofyn am gael symud yr achos i lys yng Nghymru er mwyn i'r achos gael ei chynnal Gymraeg.
  • Os bydd y cwmni sy'n eich erlyn yn ennill yr achos bydd dyfarniad llys sirol yn eich erbyn.
  • O gael dyfarniad llys sirol mae gan rywun 14 diwrnod i dalu'r ddyled. Os na thelir y ddyled bydd y dyledwr yn cael ei roi ar gofrestr Dyfarniadau'r Llys Sirol a gall y cwmni parcio neu'r cwmni casglu dyledion gyfarwyddo bwmbeili i adfer y ddyled ar eu rhan.
  • Os yw rhywun ar Gofrestr Dyfarniadau'r Llys Sirol mae'n bosibl na fydd modd cael benthyciad, morgais ayb a bydd sgôr credyd isel ganddynt. Mae posibilrwydd y bydd cwmni yswiriant yn holi a  oes dyfarniad yn erbyn rhywun, a gall hynny effeithio ar eu parodrwydd i roi yswiriant, neu (yn fwy tebygol) bydd y premiwm yn uwch.
  • Bydd dyfarniad llys sirol yn effeithio ar unrhyw un sy'n cael archwiliad ariannol fel rhan o swydd hefyd.

Colli Achos Llys

  • Os byddwch yn colli achos llys bydd angen talu costau llys, tua £30, a chostau gwys, tua £30-40, ar ben y ddirwy.
  • All y cwmni sy'n erlyn ddim hawlio costau, heblaw bod modd iddyn nhw ddadlau bod achos yr atebydd yn afresymol, fyddai'n annhebygol yn yr achos yma.

Ymwneud â bwmbeili

  • Mae disgwyl i fwmbeili roi rhybudd o saith diwrnod neu fwy i chi cyn iddyn nhw alw gyntaf.
  • Does dim rhaid i chi ateb y drws na gadael bwmbeili i mewn.
  • Fel dewis olaf gall bwmbeili orfodi eu ffordd i mewn i'ch cartref i adfer dyled droseddol, ond rhaid iddyn nhw ddod i mewn trwy ddrws neu ffenestr agored.
  • Os llwyddan nhw i ddod i mewn byddan nhw'n chwilio am eiddo i'w gymryd a'i werthu i dalu'r ddyled. Gall bwmbeili fynd â nwyddau sy'n cael eu hystyried yn foethau, fel set deledu.
  • Allan nhw ddim cymryd
    – pethau hanfodol fel dillad, ffwrn/popty neu oergell
     offer a chyfarpar gwaith sydd gyda'i gilydd yn werth llai na £1,350
     eiddo rhywun arall, ond bydd yn rhaid i chi brofi nad yw nwyddau rhywun arall yn perthyn i chi.
  • Os na lwyddan nhw i ddod i mewn, cânt gymryd eiddo y tu allan i'r tŷ fel car, beic, peiriannau gardd etc.  Bydd yr eiddo yn cael ei werthu mewn ocsiwn i dalu'r ddyled ac os oes arian yn weddill fe gewch hynny yn ôl.
  • Fe all y bwmbeili alw sawl gwaith, ac fe fydd costau'r ymweliadau yn cael eu hychwanegu at y ddyled wreiddiol.