Mewn ymateb i benderfyniad Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi Cyngor Sir Gwynedd ar Ysgol Abersoch, dywedodd Ffred Ffransis ar ran Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith:
Rydym yn croesawu'r ffaith fod penderfyniad Cabinet Cyngor Sir Gwynedd i gau Ysgol Abersoch wedi cael ei alw i mewn am ystyriaeth gan Bwyllgor Craffu Addysg ac Economi'r Cyngor Sir a fydd yn cyfarfod ddydd Iau nesaf (21 Hydref 2021).
Dywedodd llefarydd ar ran Grŵp Addysg y Gymdeithas:
O flaen eu cyfarfod Ddydd Mawrth nesaf (28/9), mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar aelodau Cabinet Cyngor Sir Gwynedd i beidio â chefnu ar y gymuned leol yn Abersoch trwy gau ysgol y pentref. Mewn llythyr at bob aelod o'r Cabinet, dywed Ffred Ffransis ar ran Grŵp Ymgyrch Addysg Cymdeithas yr Iaith mai'r "ysgol yw ei gobaith at y dyfodol fel sefydliad cwbl Gymraeg ac yn seiliedig ar blant, ac yn ddatganiad fod y Gymraeg yn perthyn i bob dinesydd y dyfodol yn Abersoch, beth bynnag fo eu cefndir."
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhuddo Cyngor Gwynedd o fod yn "ddi-fflach" ac yn "rhagweladwy" yn eu cynnig a fydd gerbron y Cabinet wythnos i heddiw (Dydd Mawrth 15/6) i gau Ysgol Gynradd Abersoch yn dilyn ymgynghoriad yn Ionawr a Chwefror eleni. Os caiff y cynnig ei basio, bydd cyfle i wrthwynebu'n ffurfiol Hysbysiad Statudol i gau'r ysgol ond, os bydd y Cyngor unwaith eto'n peidio â newid ei feddwl, gallai'r ysgol gau ar ddiwedd 2021, gan drosgwlyddo'r plant i Ysgol Sarn Bach.
Bydd cyfarfod nesaf Rhanbarth Gwynedd-Môn yn un hybrid – dewch i'r Lle Arall, Caernarfon (gyferbyn â Palas Print) os am gyfarfod wyneb-yn-wyneb ond mae croeso mawr i chi ymuno arlein hefyd.
Bydd ymgyrchoedd lleol yn cael eu trafod, gan gynnwys ymgyrch Nid yw Cymru ar Werth.
Mae ymgyrchwyr iaith wedi beirniadu’n hallt benderfyniad is-ganghellor Prifysgol Bangor i “osgoi sgriwtini” ar fater dyfodol Canolfan Bedwyr drwy ganslo cyfarfodydd gyda Chymdeithas yr Iaith deirgwaith yn olynol.
Cynhelir cyfarfod cynta'r flwyddyn Rhanbarth Gwynedd a Môn ar nos Lun 18fed Ionawr am 7:30 dros Zoom. Bydd digon i'w drafod megis ymgyrch 'Nid yw Cymru ar Werth' a camau nesa'r rhanbarth heb swyddog maes.
Os hoffech ddolen, anfonwch ebost i gogledd@cymdeithas.cymru
Bu cynghorwyr Tref Nefyn yn gorymdeithio o Nefyn i Gaernarfon ddydd Sadwrn 26ain o Fedi i godi sylw am yr argyfwng dai. Roedden nhw'n cychwyn o Nefyn ac yn cerdded yr holl ffordd i Gaernarfon, gyda rhai yn ymuno ar hyd y ffordd, ar y cyd â'r ymgyrch 'Nid yw Cymru ar Werth'.