24/04/2024 - 19:00
7yh, Fercher, 24 Ebrill
Y Wynnstay, Machynlleth
Bydd rali Nid yw Cymru ar Werth Machynlleth yn cael ei chynnal ar 14 Medi, ac yn gyfle i ymateb i gyhoeddi Papur Gwyn y Llywodraeth ar dai a chyhoeddi adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg.
Mae'r gwaith o drefnu yn dechrau nawr! Byddwn felly yn gallu ei hyrwyddo yn rali Nid yw Cymru ar Werth Blaenau Ffestiniog ar 4 Mai.
Os oes gennych ddiddordeb mewn helpu gyda'r trefniadau, dewch draw i'r Wynnstay!
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â post@cymdeithas.cymru.